Text Box: John Griffiths AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA 
  31 Ionawr 2018

 

 

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Equality, Local Government and Communities Committee
ELGC(5)-05-18 Papur 16 / Paper 16

 

Annwyl John

 

P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

 

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi bod yn ystyried y ddeiseb a ganlyn gan Hanin Abu Salem, a gyflwynwyd gyda 71 o lofnodion:

 

Testun y ddeiseb:

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r ffaith bod pobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru. Mae llywodraeth ddatganoledig yn "llywodraeth sy'n nes at y bobl," yr holl bobl!

Symudais i Gymru yn ddiweddar, ac rwyf wedi cwympo mewn cariad â phopeth Cymreig. Ond bob dydd mae fy hapusrwydd yn gymysg â thristwch mawr oherwydd fy mod yn gweld cymaint o bobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae eu dioddefaint parhaus yn sarhad imi fel aelod o'r hil ddynol. Fel unigolyn, ni allaf ddatrys eu problem ar fy mhen fy hun ond gyda'n gilydd fel llywodraeth a phobl gallwn wneud gwahaniaeth.

Mae'r bobl ddigartref yr wyf yn cerdded heibio iddynt bob dydd yng Nghymru wedi nodi eu bod yn teimlo fel "pobl sydd wedi mynd yn angof". Maent yn byw mewn cylch dieflig na ellir ond ei dorri os bydd y llywodraeth yn gosod strategaeth glir i'w cael oddi ar y stryd ac i mewn i lety diogel er mwyn iddynt adennill eu bywydau. Oddeutu pythefnos yn ôl gwelais unigolyn digartref a dywedodd rhywun fod pobl sy'n cysgu ar y stryd eisiau bod yn ddigartref. Wrth imi ddadlau yn erbyn y rhesymeg hon, gwelodd y ddau ohonom ddyn digartref ger City Road yn darllen llyfr!

Nid oes neb yn dewis bod yn ddigartref.  Mae pobl yn dod yn ddigartref o ganlyniad i amgylchiadau penodol ac mae gan y llywodraeth ddyletswydd i gael pobl oddi ar y stryd fel y gallant bleidleisio a bod yn ddinasyddion gweithredol sy'n byw ag urddas, ac fel bod cyfleoedd gwaith ar gael iddynt. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru roi cymorth i unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod ond nid yw hynny'n datrys problem unigolion sydd eisoes yn ddigartref ac sy'n cysgu ar y strydoedd. Mae angen inni roi sylw nawr i'r ffaith bod pobl yn cysgu ar y stryd!

 

Trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb yn fwyaf diweddar ar 23 Ionawr 2018 pan gytunodd yr Aelodau i wneud y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ymwybodol o'r ddeiseb, o ystyried eich ymchwiliad presennol i gysgu ar y stryd yng Nghymru.  Byddem yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i'r tîm clercio yn SeneddDeisebau@cynulliad.cymru unwaith y bydd eich adroddiad wedi'i gyhoeddi fel y gallwn anfon copi at y deisebydd.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y ddeiseb, ac ystyriaeth y Pwyllgor ohoni hyd yma, ar gael yma:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=20204

 

Yn gywir

 

David J Rowlands AC

Cadeirydd